Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/ Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
30 Medi 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6568
------
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
4 Datganiadau 90 eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.27
Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad am: Canser y Fron – Gwisgwch binc.
Gwnaeth Elin Jones ddatganiad am: Penblwydd Radio Bronglais yng Ngheredigion yn 50.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.30 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Cadeirydd.
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.40
NDM7401 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Senedd Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl Aelod o dan Rheol Sefydlog 11.21 (iv) Incwm Sylfaenol Cyffredinol
Dechreuodd yr eitem am 16.27
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7384 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y niwed y mae tlodi'n ei wneud i gyfleoedd bywyd ac nad yw gwaith bellach yn llwybr gwarantedig allan o dlodi;
b) bod y pandemig wedi gorfodi mwy o bobl i mewn i dlodi gyda niferoedd cynyddol o breswylwyr yn gorfod troi at gymorth elusennol fel banciau bwyd;
c) yr oedd twf y DU, hyd yn oed cyn y pandemig, yn wael a'n bod yn wynebu'r her gynyddol o awtomeiddio, sy'n gosod niferoedd cynyddol o swyddi mewn perygl;
d) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau, yn lleddfu tlodi ac, yn ogystal, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl;
e) y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn creu swyddi ac yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi;
f) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi'r lle i bobl gymryd mwy o ran yn eu cymuned a chefnogi eu cymdogion.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i sefydlu treial incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru;
b) i lobïo Llywodraeth y DU am gyllid i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol ledled Cymru.
Cefnogwyr
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
10 |
13 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.22 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Cadeirydd.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwerth am Arian i Drethdalwyr
Dechreuodd yr eitem am 17.34
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7404 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da a gwaith craffu effeithiol.
2. Yn gresynu at y ffaith bod dros £1 biliwn wedi'i wastraffu gan Lywodraethau olynol Cymru ar bolisïau di-rym, prosiectau y cefnwyd arnynt a gorwario yn erbyn cyllidebau ers 2010.
3. Yn gresynu ymhellach at y ffaith y caniatawyd i bolisïau Cymreig a allai fod wedi bod yn rhai da edwino oherwydd diffyg cefnogaeth a phenderfyniadau a wnaed gan ganolbwyntio ar y tymor byr.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu swyddfa drawsadrannol sydd wrth wraidd y llywodraeth i sbarduno newid diwylliant, herio'r broses o wneud penderfyniadau a sicrhau bod gwerth am arian yn cael ei ddarparu i drethdalwyr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
4 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da a gwaith craffu effeithiol ac yn cydnabod bod economeg cyni yn cynnig gwerth gwael am arian.
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi tanariannu a / neu wedi rhwystro nifer o brosiectau, gwasanaethau a seilweithiau heb eu datganoli yng Nghymru, gan gynnwys ymchwil a datblygu, rheilffyrdd, cysylltiad band eang ac ynni’r llanw ers 2010.
3. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni polisïau arloesol Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys: presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru, system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un llwybr canser, y cynnig gofal plant, dyblu’r terfyn cyfalaf, Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Gronfa Cadernid Economaidd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru er budd rheoli cyllidebau yn dda
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod Gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd Gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol
Gwelliant 4 Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau gwerth am arian drwy:
a) cydnabod bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu gwastraffu yn y trydydd sector preifat, drwy ddyblygu a rheoli pendrwm;
b) democrateiddio'r gwasanaethau a ddarperir drwy ailgyfeirio cyllid i lywodraeth leol yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
0 |
45 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7404 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da a gwaith craffu effeithiol ac yn cydnabod bod economeg cyni yn cynnig gwerth gwael am arian.
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi tanariannu a / neu wedi rhwystro nifer o brosiectau, gwasanaethau a seilweithiau heb eu datganoli yng Nghymru, gan gynnwys ymchwil a datblygu, rheilffyrdd, cysylltiad band eang ac ynni’r llanw ers 2010.
3. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni polisïau arloesol Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys: presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru, system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un llwybr canser, y cynnig gofal plant, dyblu’r terfyn cyfalaf, Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Gronfa Cadernid Economaidd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru er budd rheoli cyllidebau yn dda
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
24 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
8 Cyfnod Pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 18.32, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem 18.39
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.43
NDM7403 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Yr heriau a’r cyfleon i economi Môn: Cyfle i fwrw golwg eang ar economi Môn, yn cynnwys pryderon difrifol Brexit, yr heriau a’r cyfleon ym maes ynni, a sut i greu cynaliadwyedd cymunedol ac amgylcheddol wrth greu cyfleon economaidd newydd.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.08
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Hydref 2020